Gwasanaeth Cwsmeriaid
Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae eich cerbyd – heb eich olwynion, mae’n anodd mynd o A i B a byw o ddydd i ddydd.
Drwy brofi eich cerbyd, rydych yn sicrhau eich diogelwch eich hun a diogelwch eich teithwyr.
Mae ein Depo Trafnidiaeth a’n Cyfleuster Profion MOT pwrpasol yn Coleridge Road yng Nghaerdydd yn cynnig gwasanaeth gwych a fydd yn eich cadw i fynd yn ddiogel ar y ffordd.
Drwy ddefnyddio ein cyfleuster byddwch yn:
Arbed amser ac arian drwy yrru’n syth o’r gwaith cyn-MOT i’r lôn brofi
Lleihau eich allyriadau a’ch milltiredd drwy ddefnyddio canolfan MOT leol
Cael croeso cynnes mewn amgylchedd croesawgar
Pam ni?
Rydym yn ymfalchïo mewn gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cynnig gwerth am arian. Mae ein tîm cydwybodol ac arbenigol o dechnegwyr yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth pwrpasol i fodloni eich anghenion. Fel cyfleuster sy’n cael ei redeg gan y cyngor, nid ydym yn canolbwyntio ar wneud elw i randdeiliaid ac mae unrhyw elw’n mynd yn ôl i mewn i’r gronfa ganolog.
Eich cerbyd chi yw ein blaenoriaeth
Mae ein cyfleuster newydd yn drawiadol. Mae’n safle mawr, oddi ar Hadfield Road, ac yn cynnwys yr holl offer modern pwrpasol.‘Gallwch chi ymddiried ynom ni’
Gall y cyfleuster wneud nifer o swyddi mawr ar yr un pryd, gan sicrhau bod cerbydau’n cael eu gwasanaethu, eu gwirio a’u diogelu’n drylwyr ond effeithlon. Ein nod yw rhoi eich cerbydau yn ôl i chi cyn gynted â phosibl oherwydd rydym yn gwerthfawrogi bod eich amser yn werthfawr.Gwasanaeth MOT y gallwch ymddiried ynddo
Mae ein tîm eisoes yn gofalu am gerbydau Cyngor Caerdydd, o fysus mini ysgol i lorïau graeanu’r gaeaf. Mae gennym wybodaeth a phrofiad helaeth o wasanaethu gwahanol gerbydau – o geir ffordd i fflydoedd mawr a thryciau!Dim costau cudd
Mae’r depo yn sicrhau y cewch MOT diduedd heb unrhyw gostau cudd - gyda brand y Cyngor, gallwch fod yn siŵr o wasanaeth gwych! Gallwch fod yn dawel eich meddwl fod eich cerbydau yn nwylo diogel ein tîm profiadol o dechnegwyr a all gynnig gwasanaeth gwych, gan gynnwys:Profion MOT
Paratoi ar gyfer y prawf DVSA
Cyn-MOT
Cyfleuster Profi Awdurdodedig
Gwiriadau diagnostig
Profion breciau a goleuadau
Cyfleusterau golchi cerbydau
Tra eich bod yn aros
Mae croeso i chi aros yn ein derbynfa tra bod y gwaith yn cael ei wneud, lle gallwch:
-Ddefnyddio Wi-Fi am ddim
-Mwynhau paned a darllen y papur newydd
Mae teganau plant yna hyd yn oed i gadw’r rhai bach yn brysur tra eich bod yn aros!