Depo Trafnidiaeth Pwrpasol

Drwy brofi eich cerbydau, rydych yn cadw eich staff a’ch cwsmeriaid yn ddiogel.

Gwasanaethau Masnachol

Gwasanaeth MOT y gallwch ymddiried ynddo

Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae eich fflyd o gerbydau i’ch cwmni. Maent wrth wraidd eich busnes, a heb eich olwynion ni fydd modd dosbarthu nwyddau a gwasanaethau i’ch cwsmeriaid ffyddlon.

Drwy brofi eich cerbydau, rydych yn cadw eich staff a’ch cwsmeriaid yn ddiogel.

Mae ein Depo Trafnidiaeth a’n Cyfleuster Profion MOT pwrpasol yn Coleridge Road yng Nghaerdydd yn cynnig gwasanaeth gwych a fydd yn eich cadw chi a’ch cwmni yn ddiogel ar y ffordd.

Pam ni?

Rydym yn ymfalchïo mewn gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n cynnig gwerth am arian. Mae ein tîm cydwybodol ac arbenigol o dechnegwyr yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth pwrpasol i fodloni eich anghenion chi a’ch cwmni. Fel cyfleuster sy’n cael ei redeg gan y cyngor, nid ydym yn canolbwyntio ar wneud elw i randdeiliaid ac mae unrhyw elw’n mynd yn ôl i mewn i’r gronfa ganolog.

Drwy ddefnyddio ein cyfleuster byddwch yn:

Lleihau’r oriau a gollir, drwy baratoi a phrofi eich fflyd mewn un lle

Arbed amser ac arian drwy yrru’n syth o’r gwaith cyn-MOT i’r lôn brofi

Lleihau eich allyriadau a’ch milltiredd drwy ddefnyddio canolfan MOT HGV leol

Cael croeso cynnes mewn amgylchedd croesawgar

Eich fflyd yw ein blaenoriaeth

Mae ein cyfleuster newydd yn drawiadol. Mae’n safle mawr, oddi ar Hadfield Road, ac yn cynnwys yr holl offer modern pwrpasol.

Gall y cyfleuster wneud nifer o swyddi mawr ar yr un pryd, gan sicrhau bod cerbydau’n cael eu gwasanaethu, eu gwirio a’u diogelu’n drylwyr ond effeithlon. Ein nod yw rhoi eich cerbydau yn ôl i chi cyn gynted â phosibl oherwydd rydym yn gwerthfawrogi bod amser yn arian.

Rydym yn gwneud mwy na thrwsio a chynnal a chadw – gallwn hefyd gefnogi eich busnes gyda’n system rheoli fflyd. Rydym yn cynnig cefnogaeth weithredol bwrpasol i gwsmeriaid masnachol allweddol, gan gynnwys oriau gwasanaethu hyblyg.

Mae ein tîm eisoes yn gofalu am gerbydau Cyngor Caerdydd, o fysus mini ysgol i lorïau graeanu’r gaeaf. Mae gennym wybodaeth a phrofiad helaeth o wasanaethu a rheoli gwahanol fflydoedd o gerbydau – o geir ffordd i fflydoedd mawr a thryciau.

Dim costau cudd

Mae’r depo yn sicrhau y cewch MOT diduedd heb unrhyw gostau cudd - gyda brand y Cyngor, gallwch fod yn siŵr o wasanaeth gwych!

At eich gwasanaeth...

Gallwch fod yn dawel eich meddwl fod eich cerbydau yn nwylo diogel ein tîm profiadol o dechnegwyr a all gynnig gwasanaeth gwych, gan gynnwys:

Profion MOT

Paratoi ar gyfer y prawf DVSA

Cyn-MOT

Cyfleuster Profi Awdurdodedig

Gwiriadau diagnostig

Prawf breciau a goleuadau

Cyfleusterau golchi cerbydau