Archebu MOT
Defnyddiwch y calendr isod i archebu eich MOT gyda ni
Archebwch o leiaf 2 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw o ddydd Llun i ddydd Gwener
Dewiswch ddyddiad ac amser:
Gwyn – Ar gael
Llwyd – Dim prawf ar gael
Coch - Llawn
7.15am fel arfer – cymerwch olwg ar y calendr i weld pa slotiau sy’n rhydd ac i archebu. Gwnewch yn siŵr eich bod yma ar amser neu gallech golli eich slot.
Mae GTC ar agor o 6am i 10pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac o 6am i 5pm ar ddydd Gwener.
Canwch y gloch wrth y brif gât os yw hi ar gau. Ar ôl iddi agor, parciwch tu fas i’r brif dderbynfa. Gallwch aros yn y dderbynfa tra bod y prawf yn cael ei gwblhau.
Gallwch dalu yn y dderbynfa. Rydym yn derbyn cardiau yn ddelfrydol, ond gallwch dalu ag arian parod hefyd.
Oes, ar gyfer gwaith byr. Mae croeso i chi aros yn y dderbynfa / ardal aros. Mae yna Wi-Fi am ddim, cadeiriau cyfforddus, diodydd a byrbrydau.
Rydym yn caniatáu awr i gwblhau’r prawf a’r gwaith papur. Sicrhewch eich bod yma’n brydlon, fodd bynnag, oherwydd rydym yn aml yn brysur.
Gallwn, ond os yw eich cerbyd yn fawr iawn efallai y bydd yn rhaid i ni wneud hynny ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau – ffoniwch am wybodaeth.
Gallwn, gallwn brofi cerbydau dosbarth 7.
Na, yn anffodus nid ydym yn profi tacsis, bysus mini na beiciau modur ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gallu gwneud gwaith ar fysus mini.
Ry’n ni’n fwy na MOT
Mae’r cyfleuster yn cynnwys baeau masnachol, pyllau, lifftiau a chyfleusterau profi ar gyfer pob math o gerbyd.