Contractau Masnachol, MOT

Mae gennym weithlu medrus a all ddiagnosio problemau gan ddefnyddio offer diagnosio modern, cyflenwi rhannau ac olewau a thrwsio cerbydau o bob gwneuthuriad.  

Ein Gwasanaethau

Gwasanaethu a thrwsio

Yn GTC rydym yn cyflawni pob math o waith gwasanaethu ar gyfer cerbydau o bob gwneuthuriad – ceir, faniau, LGVs neu gerbydau peiriant arbenigol – yn ein gweithdai modern sy’n cynnwys yr holl offer diweddaraf.  Mae technegwyr sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf ac arfer gorau i gynnal eich cerbydau i’r safonau uchaf, a phopeth am bris cystadleuol iawn.

Paratoadau prawf DVSA

Mae’n hanfodol cynnal sgôr OCRS da a sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gyflwyno mewn cyflwr gwych ar gyfer y prawf.  Gall GTC gynnal archwiliad cyn y prawf gan ddefnyddio’r cyfleuster ATF ynghyd â gwasanaethu a thrwsio eich fflyd i safon MOT.

Contractau masnachol

Mae GTC eisoes yn cynnal fflyd y cyngor o HGVs, faniau, tryciau a cherbydau masnachol. Mae gennym gyfleusterau gwych a thîm profiadol a all ofalu am eich fflyd.  Gall cynlluniau pwrpasol gael eu teilwra i’r cleient, a gallwn hyd yn oed reoli trefniadau gwasanaethu eich fflyd ar eich rhan.  Gall GTC reoli diffygion, addasiadau, torri i lawr ac ati.

Aerdymheru

Gall technegwyr arbenigol wasanaethu neu drwsio systemau aerdymheru gan ddefnyddio’r offer diweddaraf. Mae opsiynau trwsio neu gynnal gwahanol ar gael ar gyfer ceir a cherbydau masnachol – ffoniwch am ragor o wybodaeth.  Beth am baratoi eich cerbyd ar gyfer tripiau’r haf drwy ei wasanaethu?

Profion MOT

Rydym yn profi’r mwyafrif o gategorïau o geir a cherbydau. Gallwch hyd yn oed aros i’r prawf gael ei wneud yn ein derbynfa gyfforddus a defnyddio’r Wi-Fi am ddim neu – i staff masnachol – y gorsafoedd gweithio pwrpasol.

Golchi cerbydau / siasis

Mae gan GTC gyfleusterau rhagorol a gallant lanhau’r cerbydau mwyaf yn drylwyr gan ddefnyddio systemau golchi tan-gorff, brwshys golchi corff a systemau stêm-lanhau i baratoi ar gyfer MOT.  Gallwn olchi neu stêm-lanhau unrhyw beth o RCV neu gymysgwr sment i fan neu gar bach. Ffoniwch am ragor o fanylion ac i archebu.

Valet a dosbarthu

Mae gennym dîm bach sy’n glanhau, gwasanaethu a chadw cerbydau yn y cyflwr gorau.  Gellir trefnu casgliadau – ffoniwch am fanylion.

Weldio a gweithgynhyrchu

Mae gan GTC dîm weldio a gweithgynhyrchu arbenigol, sy’n gymwys, medrus ac yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw waith. Fel arfer maent yn dylunio a gweithgynhyrchu projectau pwrpasol fel ffensys a gatiau, ond gallant hefyd wneud gwaith trwsio a weldio mwy safonol.

Dysgwch fwy am ein Gwasanaeth Weldio a Gweithgynhyrchu

Gweithgynhyrchu a thrwsio; gweithio gyda dur, alwminiwm, plastig, pren a gwydr ffibr

Ateb eich cwestiynau

 

7.15am fel arfer – cymerwch olwg ar y calendr i weld pa slotiau sy’n rhydd ac i archebu. Gwnewch yn siŵr eich bod yma ar amser neu gallech golli eich slot.

Mae GTC ar agor o 6am i 10pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac o 6am i 5pm ar ddydd Gwener.

Canwch y gloch wrth y brif gât os yw hi ar gau. Ar ôl iddi agor, parciwch tu fas i’r brif dderbynfa. Gallwch aros yn y dderbynfa tra bod y prawf yn cael ei gwblhau.

Gallwch dalu yn y dderbynfa. Rydym yn derbyn cardiau yn ddelfrydol, ond gallwch dalu ag arian parod hefyd.

Oes, ar gyfer gwaith byr. Mae croeso i chi aros yn y dderbynfa / ardal aros. Mae yna Wi-Fi am ddim, cadeiriau cyfforddus, diodydd a byrbrydau.

Rydym yn caniatáu awr i gwblhau’r prawf a’r gwaith papur. Sicrhewch eich bod yma’n brydlon, fodd bynnag, oherwydd rydym yn aml yn brysur.

Gallwn, ond os yw eich cerbyd yn fawr iawn efallai y bydd yn rhaid i ni wneud hynny ar ddydd Mawrth neu ddydd Gwener – ffoniwch am wybodaeth.

Gallwn, gallwn brofi cerbydau dosbarth 7.

Na, yn anffodus nid ydym yn profi tacsis, bysus mini na beiciau modur ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gallu gwneud gwaith ar fysus mini.

Faint o’r gloch mae eich apwyntiad MOT cyntaf?

7.15am fel arfer – cymerwch olwg ar y calendr i weld pa slotiau sy’n rhydd ac i archebu. Gwnewch yn siŵr eich bod yma ar amser neu gallech golli eich slot.

Faint o’r gloch ydych chi’n agor?

Mae GTC ar agor o 6am i 10pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac o 6am i 5pm ar ddydd Gwener.

Ble mae mynd am MOT?

Canwch y gloch wrth y brif gât os yw hi ar gau. Ar ôl iddi agor, parciwch tu fas i’r brif dderbynfa. Gallwch aros yn y dderbynfa tra bod y prawf yn cael ei gwblhau.

Sut alla i dalu am MOT neu waith sy’n cael ei wneud ar fy nghar?

Gallwch dalu yn y dderbynfa. Rydym yn derbyn cardiau yn ddelfrydol, ond gallwch dalu ag arian parod hefyd.

A oes yna ardal aros?

Oes, ar gyfer gwaith byr. Mae croeso i chi aros yn y dderbynfa / ardal aros. Mae yna Wi-Fi am ddim, cadeiriau cyfforddus, diodydd a byrbrydau.

Pa mor hir mae MOT yn para?

Rydym yn caniatáu awr i gwblhau’r prawf a’r gwaith papur. Sicrhewch eich bod yma’n brydlon, fodd bynnag, oherwydd rydym yn aml yn brysur.

Allwch chi gynnal MOT ar fy fan wersylla?

Gallwn, ond os yw eich cerbyd yn fawr iawn efallai y bydd yn rhaid i ni wneud hynny ar ddydd Mawrth neu ddydd Gwener – ffoniwch am wybodaeth.

Mae fy fan yn gerbyd dosbarth 7. Allwch chi wneud MOT?

Gallwn, gallwn brofi cerbydau dosbarth 7.

Ydych chi’n gallu gwneud MOT ar fysus mini?

Na, yn anffodus nid ydym yn profi tacsis, bysus mini na beiciau modur ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gallu gwneud gwaith ar fysus mini.