Weldio a Gweithgynhyrchu
Mae Gweithdai canolog y Cyngor yn cynnig gwasanaeth cymorth arbennig i’r holl feysydd gwasanaeth rheng-flaen sy’n delio â chynnal a chadw, profi, MOT ac ail-drwyddedu cerbydau ac offer gweithredol. Fodd bynnag, nid llawer sy’n ymwybodol o’n gwasanaeth weldio a gweithgynhyrchu gwych.
Os oes angen unrhyw beth wedi’i wneud neu ei drwsio arnoch yn defnyddio dur, dur gwrthstaen, alwminiwm neu blastig, mae’r Gweithdai Canolog yn cynnig gwerth gwych am arian. Gallwn wneud grisiau, rhwystrau ac adeiladwaith pwrpasol neu drwsio adeiladwaith presennol.
Nid dim ond rheiliau a gatiau...
Mae crefftwyr medrus yn creu a thrwsio amrywiaeth eang o gynhyrchion gan ddefnyddio metel a phlastig. Mae llawer o gynhyrchion pwrpasol yn cael eu creu at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys gatiau, rhwystrau, rheiliau a phob math o arwyddion stryd a chelfi stryd.
Gallwn greu neu drwsio unrhyw beth sydd wedi’i wneud allan o ddur, alwminiwm neu blastig. Mae’r tîm yn hyblyg ac yn gallu gweithio ar y rhan fwyaf o brojectau mawr a bach.
Rydym yn cynnig:
Gweithgynhyrchu a dylunio: ffurfio, plygu, torri plasma, dyrnu, drilio, peiriannu, gofannu, plygu peipiau
Gwaith gyda: dur, alwminiwm, gwrthstaen, pren, plastig, gwydr ffibr
Prosesau weldio: MIG, Arc Fetel, Ocsi-asytelen
Weldio a chodi safle: codi, rigio, gosod celfi stryd, cynnal a chadw mecanyddol
Gweithgynhyrchu: gatiau, rheiliau, ffensys, rhwystrau, fframiau enw stryd
Trwsio: gatiau, rheiliau, ffensys, rhwystrau a fframiau enw stryd, sgipiau, celfi stryd a llwyfannau
Datgymalu, codi, weldio a thorri
Mae gwaith weldio’n cael ei wneud i safonau codau
Contractau masnachol
Drwy brofi eich cerbydau, rydych yn cadw eich staff a’ch cwsmeriaid yn ddiogel.
Gwasanaeth cyfrifol a chyfeillgar
Mae ein crefftwyr medrus ar alw y tu allan i oriau sy’n golygu, gydag un alwad, y gellir delio ag amrywiaeth o broblemau gweithredol annisgwyl yn gyflym ac yn effeithlon.
Mae’r gwasanaeth yn cynnwys cymorth gyda manylebau a dylunio os oes angen.